10 May 2017
Mae Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) wedi ennill gwobr adeiladau gwyddoniaeth bwysig gan guro cystadleuaeth gan gyfleusterau a gyrhaeddodd y rhestr fer yn UDA, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.
Enillodd CUBRIC wobr yng Nghategori Adeilad Ymchwil Gwyddor Bywyd yng Ngwobrau S-Lab 2017, sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn adeiladau, offer, cyfleusterau a rheolaeth gwyddoniaeth.
Roedd cyfleusterau eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori yn cynnwys Canolfan Sainsbury Wellcome UCL a phencadlys newydd Sefydliad Allen yn Seattle.
Dyma’r drydedd wobr fawr i CUBRIC mewn cwpl o wythnosau ar ôl iddi ennill Prosiect y Flwyddyn a’r teitl Dylunio drwy Arloesi yng Ngwobrau RICS 2017, Cymru ym mis Ebrill.
Yn ogystal, daeth CUBRIC yn ail yn y categori Adeiladau sy’n Ysbrydoli yng Ngwobrau Prifysgol y Guardian 2017.

Wedi’i chyflwyno gan CAPITA, IBI Group, a BAM Construction Ltd, ar ran Prifysgol Caerdydd, mae’r ganolfan yn arweinydd byd-eang ym maes ymchwil mewn meysydd fel seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford:
“Mae’n anrhydedd fawr i Ganolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd ennill gwobr arwyddocaol fel hon…”
“Mae CUBRIC yn wir yn lle arbennig. Mae’n gartref i ymchwilwyr blaenllaw yn y byd a chyfuniad o gyfleusterau na cheir yn unman arall yn Ewrop.” Yr Athro Karen Holford Athro
“Mae ei waith o arwyddocâd byd-eang wrth i ymchwilwyr geisio dealltwriaeth well o achosion cyflyrau niwrolegol a seiciatrig fel dementia a sglerosis ymledol, a gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddatblygu triniaethau gwell.”

Agoriad Brenhinol i CUBRIC yn 2016
Mae CUBRIC yn gartref i gyfleusterau sganio MRI pwerus, offer ysgogi’r ymennydd, labordai cysgu, swyddfeydd modern a mannau torri allan.
Agorwyd y cyfleuster gwerth £44 miliwn yn swyddogol gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn 2016.
Search for: