Mae Athro Niwrolawdriniaeth Swyddogaethol Uned BRAIN, yr Athro William Gray, wedi llwyddo i gyflawni’r driniaeth epilepsi gyntaf â chymorth robot yng Nghymru.
Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu’r weithdrefn stereoelectroenceffalograffeg (SEEG) nodedig, a gynhaliwyd yn Ysbyty Prifysgol Cymru ac mae’n gyntaf o’i bath i gael ei chynnal gyda chymorth robotig yng Nghymru.
Cynorthwyodd y robot ‘niwromat’, a enwyd gan y crewyr Renishaw, cwmni peirianneg a thechnoleg wyddonol blaenllaw yn y byd, yr Athro Gray yn ystod y llawdriniaeth tra roedd yn defnyddio electrodau mewngyhyrol i fesur signalau trydanol yn yr ymennydd.
Cafodd y claf Denise Casey, o Gastell-nedd Port Talbot, ddiagnosis o epilepsi ysgwydd pan oedd hi’n 31 oed, gan ddioddef hyd at chwe ffit bob dydd am yr 20 mlynedd diwethaf.
Gyda’r fraich robotig, cymerodd 55 munud i’r Athro Gray nodi a gweithredu’n gywir ar y parth epileptogenig mewn gweithdrefn a fyddai fel arfer yn cymryd pedair awr. Perfformiwyd llawdriniaeth ddilynol wythnos yn ddiweddarach yn y gobaith o leddfu symptomau epileptig Denise.
“Mae Robot Renishaw yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer llawdriniaeth epilepsi yng Nghymru,” meddai’r Athro Gray.
“Bydd yn ein galluogi i ymchwilio a thrin hyd yn oed yr achosion mwyaf cymhleth er mwyn sicrhau rhyddid rhag trawiadau i’n cleifion. Mewn cydweithrediad ag Uned BRAIN, bydd hefyd yn ein galluogi i gynnal ymchwil flaenllaw ar gyfer mesur signalau’r ymennydd a chyflwyno therapïau’n uniongyrchol i’r ymennydd, ar draws llawer o glefydau niwrolegol.”
Roedd y weithdrefn nodedig hon yn cyd-daro â BioWales, cynhadledd flynyddol Caerdydd sy’n dathlu safle Cymru fel arloeswr byd-eang yn y sector gwyddor bywyd. Dywedodd Andrea Richards, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Niwrowyddorau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Rydym yn falch bod y cydweithrediad hwn wedi galluogi nifer o welliannau i ofal cleifion.
“Bydd cleifion niwrolawfeddygol nawr yn treulio llai o amser yn y theatr lawdriniaeth, bydd ganddynt lai o risg o haint ac byddant yn elwa o ganlyniadau llawfeddygol gwell.”
Ychwanegodd Dr Abed Hammoud, Prif Swyddog Gweithredol Renishaw Mayfield SA yn y Swistir:
“Rydym wrth ein bodd yn clywed bod ein harbenigedd mewn technoleg a pheirianneg wedi cyfrannu at ganlyniad cadarnhaol yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ac edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â’r adran niwrowyddoniaeth i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion yng Nghymru.”
Nid yw Denise wedi dioddef unrhyw ffitiau ers ei llawdriniaethau ym mis Mawrth, a hyd yn oed ymddangosodd ochr yn ochr â’r Athro Gray ar deledu BBC Cymru i drafod ei phrofiad. Gwyliwch y cyfweliad yma: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-39513139
Search for: