13 February 2017
Mae Dr Emma Yhnell wedi’i chynnwys mewn rhestr o fenywod o Gymru sydd ar flaen y gad o ran arloesi gwyddonol.

Mae Dr Yhnell yn angerddol am ymgysylltu â’r cyhoedd
Llwyddodd Emma i ennill ei PhD mewn ymchwil i glefyd Huntington ym mis Rhagfyr 2015.
Ers hynny mae hi wedi derbyn cyllid ymchwil cystadleuol ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gyfieithu canfyddiadau cyn-glinigol ei PhD i gleifion sy’n cael eu heffeithio gan glefyd Huntington.
Mae hi hefyd yn llysgennad STEM ac yn aelod o Speakezee – cronfa ddata chwiliadwy o siaradwyr academaidd arbenigol.
Dywedodd hi:
“Rwy’n caru’r her o ateb cwestiynau nad oes neb yn gwybod yr atebion iddynt.
“Does dim teimlad gwell na chael canlyniadau arbrawf rydych chi wedi bod yn gweithio arno ers dwy flynedd o’r diwedd.
“Rwyf hefyd wrth fy modd yn siarad â chleifion a theimlo y gallaf wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Rwy’n cael fy nhalu i wneud rhywbeth rwy’n ei garu ac rwy’n gwerthfawrogi hynny’n fawr.
“Nod fy ymchwil yw dod o hyd i therapïau ac ymyriadau newydd i helpu pobl sy’n byw gyda chlefydau’r ymennydd fel clefyd Huntington.
“Cyflwr etifeddol ar yr ymennydd sy’n effeithio ar symudiad a meddwl, gall clefyd Huntington adael pobl yn teimlo’n ynysig, yn unig ac angen gofal ychwanegol.
“Un o’r therapïau rwy’n ymchwilio iddo yw defnyddio gemau cyfrifiadurol i wella sgiliau meddwl mewn cleifion sy’n cael eu heffeithio gan glefyd Huntington.
“Er bod gemau ymennydd wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol mewn clefydau ymennydd eraill fel clefyd Parkinson a chlefyd Alzheimer, dyma fydd y tro cyntaf i astudiaethau mewn pobl â chlefyd Huntington gael eu gwneud.
“Yn seiliedig ar waith cyn-glinigol ac ymchwil i glefydau eraill yr ymennydd, rydym yn credu bod gan hyfforddiant ymennydd gemau cyfrifiadurol y potensial i fod o fudd i glefyd Huntington, ond mae’n rhaid i ni brofi hyn i fod yn sicr.”
Search for: