Datblygu a darparu therapïau'r dyfodol

Croeso i Ganolfan Niwrotherapïau Datblygiedig

Rydym yn gweithio i wella sut rydym yn darparu meddyginiaethau sy’n newid bywydau yn uniongyrchol i’r ymennydd dynol.

Credwn, trwy arloesi a chydweithio, y gall ein hymchwil arwain at therapïau mwy effeithiol a gwella bywydau’r rhai y mae clefydau niwrolegol a niwroddirywiol yn effeithio arnynt.

Ein hymchwil

Ein nod yw arwain datblygiad therapïau uwch ar gyfer clefyd niwrolegol trwy gyfuniad o arbenigedd a chyfleusterau o’r radd flaenaf mewn Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch niwrolegol, cyflwyno a dylunio treialon clinigol a gwyddor cyflwyno ATMP, wedi’i ategu gan ddulliau sy’n canolbwyntio ar y claf.

Rydym wedi nodi tri maes allweddol a all hybu’r wyddoniaeth hon ac yn y pen draw wella bywydau pobl sy’n byw gyda chyflyrau niwroddirywiol fel clefyd Huntington a Parkinson’s.

  1. Cyflwyno ATMPs i’r ymennydd dynol mewn treialon clinigol cyfnod cynnar
  2. Cefnogi datblygiad ATMP ar gyfer clefydau niwrolegol.
  3. Defnyddio profiad bywyd pobl i wella sut mae ein treialon yn cael eu cynllunio

Rydym yn cychwyn ar gyfnod cyffrous lle mae triniaethau sy’n addasu clefydau yn dod yn realiti ar gyfer clefydau’r ymennydd nad oes modd eu trin ar hyn o bryd, fel Clefydau Alzheimer a Huntington (HD), neu’n gyfyngedig i ddulliau symptomatig, megis Clefyd Parkinson (PD) a sawl math o epilepsi.

Mae llawer o’r triniaethau mwyaf addawol sy’n dod i’r amlwg yn defnyddio Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch (ATMPs), sy’n cynnwys danfon genynnau, asid riboniwcleig (RNA), neu gelloedd yn uniongyrchol i’r ymennydd.

Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni

Digwyddiadau

Mae ANTC yn trefnu digwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn i ymchwilwyr, cleifion ac aelodau o’r cyhoedd

NRU

Ein cyfleuster ymchwil glinigol â pedwar gwely yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw’r canolbwynt ar gyfer cyflwyno treialon clinigol ANTC

NEWYDDION A DIGWYDDIADAU

Hoffech chi sgwrs?

Os hoffech wybod mwy am uned BRAIN a beth rydym ni’n ei wneud, cysylltwch

Cysylltu