BACK

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol gwerth £49m mewn seilwaith ymchwil

Mae’r Uned BRAIN, a fydd yn dod yn Ganolfan Niwrotherapïau Uwch o fis Ebrill 2025, yn falch o gadarnhau y bydd yn derbyn £2,856,309 o gyllid cynaliadwyedd mewn cyhoeddiad mawr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yr wythnos hon.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 canolfan ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu ar draws dau gategori – gwobrau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau a ariennir ar hyn o bryd er mwyn cynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunan-gynaliadwyedd, a dyfarniadau catalytig er mwyn hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil newydd Cymru sy’n dod i’r amlwg.

Dywedodd yr Athro Liam Gray, Cyfarwyddwr Uned BRAIN: “Rydyn ni’n falch iawn o adeiladu ar gyflawniadau’r 10 mlynedd diwethaf yn Uned BRAIN, gan atgyfnerthu ac ehangu ein safle yn brif ganolfan y DU ar gyfer cynnig therapïau datblygedig i’r ymennydd dynol yn uniongyrchol.

“O fis Ebrill ymlaen, byddwn ni’n dod yn Ganolfan Niwrotherapïau Uwch, gan barhau i ddatblygu a chynnig triniaethau arloesol er budd cleifion sy’n byw gyda chlefydau niwrolegol a niwroddirywiol. Diolch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am eu cefnogaeth barhaus.”

Y rhestr lawn o ganolfannau a fydd yn derbyn arian yw:

Cyllid cynaliadwyedd

  • Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (£2,999,894)
  • Canolfan Ymchwil Canser Cymru (£4,866,172)
  • Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) (£4,551,338)
  • Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (£2,996,483)
  • Biofanc Canser Cymru (£2,363,320)
  • Economeg Iechyd a Gofal Cymru (£1,865,815)
  • Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (Partneriaeth CASCADE) (£2,999,636)
  • Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer) (£2,886,936)
  • Uned Ymchwil Arennau Cymru (£2,984,527)
  • Canolfan Treialon Ymchwil (£4,742, 424)
  • Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (£2,073,161)

 

Cyllid catalytig

  • Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (£3,000,000)
  • Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (£2,085,939)
  • Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (£1,815,416)
  • Canolfan Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (£3,013,936)
  • Canolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg (£1,746,729)

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan ymchwil rôl hanfodol i’w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach.  Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod; atal hunanladdiad a hunan-niweidio a DA – rwy’n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth go iawn dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofalu am bobl ledled Cymru.”

Dywedodd Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Isadran Rhaglenni, Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru:  “Mae’r cyhoeddiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith a ariennir yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae’n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy’n cyd-fynd ag angen iechyd a chymdeithasol sydd heb ei ddiwallu mewn meysydd polisi allweddol.

“Mae ein dull o ddarparu’r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf – yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac yn ail, lle mae gallu a chapasiti ymchwil cryf neu sy’n dod i’r amlwg yn yr ardal.

“Mae’r canolfannau hyn yn ymgorffori’r egwyddor o ymchwil sydd â’r pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgarwch yn y maes hwn.”

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://ymchwiliechydagofalcymru.org

Tags: