Uned Trwsio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) yn cael sylw yn y Senedd
Ddydd Mawrth 17 Medi 2024 siaradodd yr Athro Liam Gray cyfarwyddwr Uned Trwsio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN), mewn digwyddiad yn y Senedd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Gymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain (BNA).
Nod y digwyddiad, o’r enw ‘Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl: Cymru Dan Sylw’, oedd pwysleisio i lunwyr polisi bwysigrwydd ymchwil niwrowyddonol i fynd i’r afael â heriau iechyd yng Nghymru.
Daeth gweinidogion y llywodraeth, cyllidwyr ac ymchwilwyr eraill o bob rhan o Gymru ynghyd i glywed am amrywiaeth o ymchwil niwrowyddonol, gan gynnwys ymchwil yr Uned BRAIN sy’n datblygu ac yn cynnig therapïau uwch ar gyfer clefydau niwroddirywiol megis clefyd Huntington, y mae tua 7,000 o bobl yn y DU yn dioddef ag ef. Ar hyn o bryd, Uned BRAIN yw un o bum canolfan ledled y byd sy’n cynnig y therapi genynnol UniQure AMT-130 a allai fod yn drawsnewidiol ar gyfer pobl â Chlefyd Huntington.
Dywedodd yr Athro Gray, “Rydyn ni mewn cyfnod allweddol a chyffrous ym maes ymchwil niwrowyddoniaeth, gyda Therapïau Cell a Genynnau Uwch yn ymddangos yn addawol iawn ar gyfer addasu clefydau mewn cyflyrau niwrolegol na ellir eu trin o’r blaen. Ni yw un o’r ychydig ganolfannau yn y byd sy’n cynnal y treialon clinigol cyfnod cynnar hyn, gan gynnig y dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio yn ofal clinigol.”
Gan edrych i’r dyfodol, cyhoeddodd yr Athro Gray fod gan Uned BRAIN gynlluniau i ailfrandio ym mis Ebrill 2025. Bydd yr uned yn cael ei hailenwi’r Ganolfan Niwrotherapïau Uwch a bydd yn parhau i weithio tuag at fod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer datblygu a chynnig therapiwteg uwch gyda threialon yn yr arfaeth ar gyfer dementia a Chlefyd Parkinson.
Dysgwch ragor am ddyfodol Uned BRAIN yn ein hadroddiad blynyddol.