Cyfarwyddwr Uned BRAIN yn aelod o banel yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Ddydd Iau 10 Hydref 2024, gwnaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynnal ei chynhadledd flynyddol yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Testun y digwyddiad eleni oedd ‘materion ymchwil’, ac fe ddaeth ag ymchwilwyr, clinigwyr ac unigolion adnabyddus ym maes cynnwys y cyhoedd o ledled y wlad at ei gilydd.
Bu’r Athro Liam Gray, Cyfarwyddwr Uned BRAIN, yn aelod o banel yn y gynhadledd eleni, gan drafod sut mae cydweithio ar draws y sectorau yn ysgogi buddsoddiad ac yn cael mwy o fudd i gleifion yng Nghymru.
Roedd gan yr Athro Gray gyfle i drafod llwyddiannau sylweddol Uned BRAIN, a sut mae cydweithio rhwng Uned BRAIN a’i phartneriaid, gan gynnwys y GIG, wedi arwain at gynnal rhai treialon clinigol niwrotherapi uwch o safon fyd-eang yma yng Nghymru.
Ac yntau’n hanu o Iwerddon, esboniodd yr Athro Gray mai cyfleoedd unigryw i gydweithio a wnaeth ei ddenu i Gymru. Roedd hefyd wedi cyhoeddi’r cynlluniau ar gyfer Uned BRAIN, sydd yn y broses o newid i fod yn y Ganolfan Niwrotherapïau Uwch ar ei newydd wedd, ynghyd â’r nod sy’n mynd rhagddo o’r Ganolfan yn dod yn Ganolfan Rhagoriaeth Ymchwil, ar ôl ennill pum mlynedd arall o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cafodd y rhai a fu’n bresennol hefyd y cyfle i wybod rhagor am Uned BRAIN wrth ei stondin ryngweithiol drwy gydol y dydd, lle’r oedd gêm nadroedd ac ysgolion ar sail treialon clinigol newydd yn eu diddanu. Fe wnaeth y gêm ganiatáu i’r unigolion hynny ddeall yn well yr heriau a’r canlyniadau boddhaus sydd ynghlwm wrth y broses treialon clinigol.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r gynhadledd y flwyddyn nesaf, ond o dan yr enw Canolfan Niwrotherapïau Uwch, a byddwn ni’n rhannu rhagor o wybodaeth am ein henw newydd cyn bo hir.