BACK
NEWS
Myfyriwr meddygol yn yr uned BRAIN yn ennill y wobr gyntaf am y cyflwyniad llafar gorau yr ail flwyddyn yn olynol

SHARE

Facebook LinkedIn Twitter

Myfyriwr meddygol yn yr uned BRAIN yn ennill y wobr gyntaf am y cyflwyniad llafar gorau yr ail flwyddyn yn olynol

Enillodd Jack Fisher, Myfyriwr Meddygol o Brifysgol Caerdydd sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda Dr Malik Zaben, ymchwilydd yn yr uned BRAIN, y wobr am y cyflwyniad llafar gorau yng Nghyfarfod Gwyddonol Blynyddol CITER eleni.

Cynhaliwyd Cyfarfod Gwyddonol Blynyddol Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd (CITER ASM) yn rhithwir eleni. Cyfle yw’r digwyddiad hwn i academyddion, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, myfyrwyr MSc, myfyrwyr PhD ac israddedigion drafod y canfyddiadau ymchwil diweddaraf ym meysydd ymchwil Gwyddoniaeth Bôn-gelloedd, Peirianneg Meinweoedd a Thrwsio Meinweoedd yn ogystal â Throsi Clefydau.

Roedd prosiect Jack Fisher yn astudio effeithiau cyfrwng cyflwr anafiadau ar fynegiant ffactorau trawsgrifio Pax6 &TBr2, sef rheoleiddwyr allweddol ar gyfer niwrogenesis corticaidd.

Fisher yw’r ail ymchwilydd yn Uned BRAIN i ennill y wobr gyntaf am ei gyflwyniad llafar. Enillodd Dr Ronak Ved y wobr yn 2020.

Tags: