Ymchwilydd Prifysgol Caerdydd yn derbyn Cymrodoriaeth Guarantors of Brain
Mae ymchwilydd o Uned yr Ymennydd (BRAIN) a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill Cymrodoriaeth Guarantors of Brain.
Mae Dr Malik Zaben yn gweithio ar draws yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n ddarlithydd mewn niwrolawdriniaeth sydd â diddordeb arbennig mewn deall niwrogenesis a niwroblastigedd ar ôl anaf trawmatig i’r ymennydd (TBI). Mae ei ymchwil yn archwilio dulliau therapiwtig posibl sy’n targedu llwybrau niwrolidiol i gyfyngu ar ddifrod i’r ymennydd ar ôl anaf, a gwella atgyweirio.
Mae Guarantors of Brain yn elusen sydd â’r nod o hyrwyddo addysgu, addysg ac ymchwil mewn niwroleg a disgyblaethau clinigol-academaidd cysylltiedig ac mae Dr Zaben yn derbynnydd ei Chymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Glinigol Brain ar gyfer 2021.
Dywedodd Dr Zaben: “Rwy’n falch iawn o dderbyn gwobr Cymrodoriaeth Guarantors of Brain.
“Mae anaf trawmatig i’r ymennydd (TBI) yn achosi nifer sylweddol o farwolaethau ac afiacheddau ledled y byd, gyda llawer o oroeswyr yn dioddef diffygion niwrowybyddol, echddygol a synhwyraidd hirsefydlog sy’n amharu’n helaeth ar eu gallu i weithredu’n annibynnol.
“Mae deall sut mae niwro-lid yn dylanwadu ar adfywio niwronau cortigol ar ôl anaf trawmatig i’r ymennydd yn hanfodol er mwyn hwyluso’r broses o nodi strategaethau therapiwtig newydd i wella diffygion niwrolegol sy’n gysylltiedig ag anaf trawmatig i’r ymennydd.”
Mae ymchwilwyr o Uned BRAIN a’r NMHRI eisoes wedi cynnal arsylwadau cyn-glinigol mewn modelau anifeiliaid a dynnodd sylw at gamau cadarnhaol ymlaen wrth ddatblygu strategaethau ffarmacolegol i wella atgyweirio’r ymennydd ar ôl anaf. Fodd bynnag, ceir diffyg dealltwriaeth o hyd ynghylch prosesau niwrolidiol allweddol ar ôl anaf, yn enwedig yn yr ymennydd dynol.
Ychwanegodd Dr Zaben: “Er bod modelau anifeiliaid wedi bod yn ddefnyddiol o ran deall llawer o brosesau mewn anaf trawmatig i’r ymennydd, mae’r graddau y mae modelau anifeiliaid sydd wedi cael y fath anaf yn efelychu ymateb yr ymennydd dynol i anaf wedi cael eu herio, gan eu gwneud yn llai defnyddiol ar gyfer archwilio dulliau ffarmacolegol.
“Bydd gwobr y gymrodoriaeth newydd yn hwyluso ymchwil â ffocws ar ddefnyddio celloedd cortigol dynol oedolion.
“Mae’r moleciwl pwysig sy’n gysylltiedig â difrod, Grŵp Symudedd Uchel Blwch 1 (HMGB1), yn effeithio ar dynged bôn-gelloedd. Mae HMGB1 yn gweithio trwy dderbynnydd tolaidd is-fath 4 (TLR4) a’r derbynnydd ar gyfer cynhyrchion terfynol glycedi uwch (RAGE) i sbarduno niwro-lid mewn llawer o bathogenau’r ymennydd. Byddaf yn archwilio llwybr HMGB1-TLR4-RAGE mewn llid cortigol dynol ac adfywio niwronau ar ôl anaf, gan archwilio gallu bôn-gelloedd y system nerfol fewnol i atgyweirio’r ymennydd dynol a anafwyd.
Hoffwn ddiolch i Guarantors of Brain am y gymrodoriaeth hon ac edrychaf ymlaen at gynnal ymchwil bellach mewn labordai dros y flwyddyn nesaf, sydd wedi’i hwyluso trwy’r wobr hon.”
Darllenwch fwy am ymchwil barhaus Malik ar anaf trawmatig i’r ymennydd yma.